Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2019
Amser:
08.30 -
08.40
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Busnes yr Wythnos Hon
Dydd Mawrth
·
Gwnaeth y Llywodraeth y newidiadau canlynol i fusnes
y Cyfarfod Llawn heddiw, dosbarthwyd copïau caled diwygiedig o
'Fusnes yr Wythnos Hon':
-
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth: Strategaeth Dwristiaeth (45
munud) - Tynnwyd yn ôl
- Bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y cyflwyno'r datganiad llafar, 'Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol' (45 munud)
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 18.05pm.
Dydd Mercher
· Bydd yr holl bleidleisio ac eithrio'r ddadl Cyfnod 3 yn digwydd cyn y ddadl fer.
· Ni fydd egwyl cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.
Dosbarthodd y Trefnydd gopi caled diwygiedig o 'Amserlen Busnes y Llywodraeth am Dair Wythnos', a bydd yr holl newidiadau'n cael eu dangos ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 3 Ebrill 2019 –
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
Dyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau
Dywedodd Darren Millar wrth y Rheolwyr Busnes fod Grŵp Ceidwadwyr Cymru bellach am enwebu un o'i Aelodau i swydd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yn unol â'r penderfyniad mewn egwyddor gan y Pwyllgor Busnes ar 23 Hydref 2018.
Roedd penderfyniad y mwyafrif o blaid yr ail-ddyrannu - gwrthwynebodd Neil Hamilton.
Bydd cynnig i ailddyrannu Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau i Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn cael ei ystyried fel yr eitem olaf o fusnes yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw. Os cytunir, bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar ddechrau Cyfarfod Llawn yfory; cynhelir pleidlais gudd os daw mwy nag un enwebiad i law.